IECHYD A LLES
Mae gan Hedyn gyfoeth o brofiad o weithio ochr yn ochr â phartneriaid iechyd i ddatblygu a chyflwyno prosiectau sy'n rhoi iechyd a lles pobl yn ganolog. Mae ein prosiectau'n ymdrechu am ymarfer gorau ac rydym yn creu mannau diogel a chynhwysol lle gall unigolion gymdeithasu, symud a mynegi eu hunain. Nod ein prosiectau yw cefnogi iechyd meddwl a chorfforol, helpu i leihau unigedd ac adeiladu cymunedau mwy gwydn. Rydym yn teilwra pob prosiect i ddiwallu anghenion penodol y grŵp. Gyda chefnogaeth gan ein partneriaid, rydym yn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gyflawn o'r heriau y gallent eu hwynebu fel y gallwn greu prosiect sy'n cyfoethogi eu bywydau.

Gyda phob prosiect, rydym yn dod ag artistiaid o ystod o ddisgyblaethau i mewn, a mewn prosiectau yn y gorffennol rydym wedi gweithio gyda cherddorion, gwneuthurwyr ffilmiau ac artistiaid gweledol. Credwn fod y dull cydweithredol hwn yn caniatáu inni gyflwyno prosiectau o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu amrywiaeth y grŵp.
Ar hyn o bryd mae ein prosiectau'n cefnogi pobl sy'n byw gyda Parkinson's a dementia. Rydym yn gweithio gyda'r partneriaid canlynol i sicrhau y gall aelodau'r cymunedau hyn gael mynediad at ein prosiectau a theimlo ymdeimlad o berthyn ynddynt; Parkinson's UK, Iechyd a Llesiant Conwy, Iechyd a Llesiant Gwynedd, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru.
YSGOLION AC ADDYSG

Ar hyn o bryd mae Hedyn yn rhan o 7fed garfan Cronfa Datblygu Athrawon Paul Hamlyn. Mae'r prosiect hwn, sy'n seiliedig ar ymholiadau, o'r enw Gwreiddio Dawns o fewn y Cwricwlwm i Gymru, yn gweithio'n agos gydag athrawon ac uwch arweinwyr mewn 9 ysgol yn ardal Llandudno, i gefnogi'r ysgolion i ddarparu cyfleoedd dawns a symudiad creadigol o ansawdd uchel i'w disgyblion. Yn y flwyddyn gyntaf, roedd y prosiect yn galluogi athrawon i ennill mwy o brofiad a magu hyder wrth gyflwyno dawns yn eu hysgol.
Mae'r prosiect bellach yn ei ail flwyddyn o'r gronfa a ffocws y prosiect yw dilyniant. Rydym yn gweithio gyda'r arbenigwr addysg ddawns Gina Roberts ar sut y gallwn adeiladu fframwaith defnyddiol a defnyddiadwy a gefnogir gan fanc adnoddau creadigol a all gefnogi athrawon i addysgu dawns yn effeithiol mewn ysgolion.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Hedyn weithio gyda'ch ysgol i gyflwyno gweithdai dawns, prosiectau neu gymorth gyda dylunio cwricwlwm, cysylltwch â ni.
CYMUNED

Dawns Ieuenctid
Mae Hedyn yn cyflwyno prosiectau dawns ieuenctid pwrpasol ar gyfer cymunedau Gogledd Cymru. Mae prosiectau blaenorol wedi cynnwys prosiect haf mewn cydweithrediad ag Eglwys y Santes Fair ym Metws y Coed a rhaglen 6 wythnos o sesiynau yn Ysgol Eirias. Mae myfyrwyr o Ysgol Eirias hefyd wedi cefnogi ein sesiwn Dawns ar gyfer Parkinson’s, gan ddod ag elfen rhwng cenedlaethau i’r sesiynau.
Hadau Bach | Little Seeds
Mae Hadau Bach yn sesiynau symud creadigol wythnosol a gynhelir ym Mae Penrhyn ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol ac anableddau. Wedi'u llywio gan ymchwil mewn datblygiad plant, mae'r rhain yn croesawu'r teulu cyfan i archwilio ystod o ysgogiadau creadigol trwy chwarae. Nid ydym byth yn gwybod i ble y gallai'r sesiynau hyn fynd â ni, gan ddechrau gyda rhai blychau, blancedi ffoil a sbyngau mae ein hartistiaid dawns yn dilyn diddordebau'r plant sy'n mynychu.

Camau Bach | Little Steps
Mae sesiynau Camau Bach wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer babanod a phlant ifanc 0-2 oed a'u hoedolion. Wedi’u hysbrydoli gan fyd natur, mae’r sesiynau chwareus hyn yn cynnwys cerddoriaeth fyw ac yn defnyddio propiau synhwyraidd i annog rhai bach i archwilio synau a gweadau gwahanol. Mae’r sesiynau nid yn unig yn cefnogi datblygiad corfforol ac emosiynol plant bach ond hefyd yn cynnig gofod creadigol ymlaciol i deuluoedd fondio gyda’i gilydd.
Twmpathau
Ceilidh Cymreig yw Twmpath. Mae Hedyn yn cynnal twmpathau yn rheolaidd gyda ac ar gyfer cymunedau Gogledd Cymru. Rydym yn gweithio gyda bandiau gan gynnwys LoFi Jones, TwmpDaith a Sbri i allu cynnig y gorau oll o gerddoriaeth draddodiadol Cymru. Caiff dawnsiau eu galw mewn ffordd hygyrch gan alwyr profiadol gan sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan. Mae ein twmpathau yn aml yn cynnig cyfleoedd perfformio i grwpiau lleol gan gynnwys Clocswyr Conwy a Clocswyr Madoc.
PROFFESIYNOL
Rydym yn gweithio gydag artistiaid llawrydd proffesiynol ar draws Gogledd Cymru i adeiladu cymuned ddawns wydn, ffyniannus a chreadigol sy'n gwthio ffiniau ac yn ysbrydoli cysylltiad.
Mae ein gweithwyr llawrydd yng nghalon yr hyn a wnawn. Trwy hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, rydym yn buddsoddi mewn artistiaid dawns o Ogledd Cymru y mae eu gwaith yn cryfhau cymunedau ac yn cyfoethogi tirwedd greadigol y rhanbarth.

Rydym yn creu cyfleoedd perfformio a choreograffi sy’n dod â gwaith ystyrlon o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd ar draws Gogledd Cymru, gwaith sy’n atseinio, yn cysylltu cymunedau, ac
yn dathlu ein tirwedd, iaith, a diwylliant unigryw. Mae creu perfformiadau safle-benodol mewn mannau awyr agored ac annisgwyl yn rhan ddiffiniol o’n gwaith, mae’r amgylchedd naturiol, y bobl a’r lleoedd wedi’u gwreiddio yn y gwaith a wnawn.

Mae prosiectau diweddar yn cynnwys Trap A Zoid gydag Oriel Mostyn, VRï X Cywaith Dawns fel rhan o Winter Sounds Conwy gyda’r band siambr-gwerin VRï, Llys Helig fel rhan o Beach of Dreams yn West Shore Beach, Llandudno, cydweithrediadau rhyngwladol, a pherfformiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys y sioe deuluol awyr agored Sblash – yn llawn rhythmau syfrdanol, hyfrydwch synhwyraidd, a chyfranogiad y gynulleidfa.
​
Mae cerddoriaeth fyw yn rhan annatod o’n gwaith ac rydym yn croesawu cyfleoedd i gydweithio a gweithio gyda cherddorion ac artistiaid o ddisgyblaethau eraill, gan ddarganfod safbwyntiau newydd a phosibiliadau creadigol.
​
Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
